Home » Blog » Mae Creu Cyffro wedi dod ar ben: “Does na dim byd yn well na weld rhywun yn y gornel yn atgyfodi”

Mae Creu Cyffro wedi dod ar ben: “Does na dim byd yn well na weld rhywun yn y gornel yn atgyfodi”

by | Mar 6, 2023 | Skills and Capacity

Ar ôl bron blwyddyn yng nghwmni’r rhaglen Creu Cyffro – a gyflawnwyd gan Les Merthyr ac ariannwyd gan Lywodraeth y DU trwy ei Chronfa Adfywio Cymunedol – mae ein rôl wedi dod ar ben.

Arweinid gan y doethuriaid Ellie Farmahan ac Eva Elliott, o Straeon Research, mae’r adroddiad gwerthuso llawn ar gael yma lle bo crynodeb ar gael hefyd.


Creu cyffro’n llenyddol

Mewn ysbryd enw’r rhaglen, mae teitl yr erthygl yma – dyfyniad oddi wrth un o’r partnerau cyflawni – yn myfyrio sut fu’r rhaglen yn sbarduno golau o dan frwdfrydedd creadigol pobl.

Ein rôl ni oedd arwain ar:

  • elfennau Cymraeg y gwerthusiad
  • cynhyrchu’r cyfryngau cymunedol podlediad a oedd yn rhan o’r fframwaith gwerthuso
  • meithrin medr podledu ymhlith partnerau’r rhaglen a chyfranogwyr

Mae’r sianel podlediad Creu Cyffro isod ac mae yna sawl rhifyn (yn Saesneg a Chymraeg) gyda phartnerau rhaglen gan ddisgrifio beth oeddent yn gwneud fel rhan o’r rhaglen, a hefyd darparu mewnwelediad ar y rhesymau am eisiau cynnwys podlediadau yn y fframwaith gwerthuso.

Creu Cyffro a chyfalaf cymdeithasol

Fe gynhalom ni ddwy sesiwn feithrin medr yn ystod y rhaglen ac un sesiwn ychwanegol (nid yn rhan o Greu Cyffro) gyda phrosiect gyfranogaeth pobl ifainc sydd wedi darparu i ni mewnwelediad ar y gyfalaf cymdeithasol ymhlith pobl ifancach.

Yn fras, mae pobl ifanc yn tueddu byw gartre’ o hyd a threulio llawer o amser gyda phob ifanc eraill (yn yr ysgol, coleg, chwaraeon, crogi mas); gellir dweud bod gyda nhw gyfalaf cymdeithasol bondio, h.y., y cysylltiadau rhwng aelodau’r un amgylchedd cymdeithasol. Mewn papur diweddar mae Rodrigues-Soler a Verd (2023) yn nodi bod grwpiau sydd gan gyfalaf cymdeithasol bondio cryf yn tueddu i gael mynediad tebyg i adnoddau (ariannol, diwylliannol, cymdeithasol, ayyb.). Ond, gan fod ardaloedd difrentiedig yn gymdeithasol-economiadd yn tueddu i gadw cyfrannedd uwch o gysylltiadau bondio, y mae’n rhesymol felly i ddisgwyl mewn tref megis Merthyr Tudful, bydd pobl â chefndir difrentiedig yn gymdeithasol gan ddiffyg adnoddau o achos eu nodweddion tebyg (“pobl fel ni”).

Mae yna cyflin rhwng be’ mae Rodrigues-Soler a Verd yn nodi mewn cefnogaeth cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifainc a be’ fu Creu Cyffro yn gobeithio cyflawni mewn gweithgarwch celfyddydol a diwylliannol: y pwysigrwydd o gysylltiadau a chyfleon i feithrin cyfalaf pontio a chysylltu ar gyfer pobl, h.y., clymau’n fwy gwan (mewn cymhariaeth â bondio) rhwng pobl sy’n rhannu amgylcheddau cymdeithasol gwahanol ond sydd gan statws tebyg (‘pontio’); a’r clymau mewn hierarchaethau neu’r cyd-destunnau hynny lle gellir gweld gwahaniaethau mewn statws (‘cysylltu’).

Er nad oedd yn amcan amlwg y rhaglen, mae’n glir y buddsoddai Creu Cyffro yng nghyfalaf cymdeithasol Merthyr Tudful ac yng nghyd-destun grwp pobl ifainc, gall buddsoddi yn eu medr i greu cyfryngau cymunedol lleol helpu gwella cynrychiolaeth o bobl ifainc yn y newyddion, yn ogystal ag adlewyrchu diddordebau pobl ifainc yn yr hynny sy’n diffinio’r newyddion yn gyntaf oll. Buasai Radio Platfform yn gweithio o flaenllaw yn yr ardal, ond mae amcan y pendraw o gael gorsaf radio cymunedol ar gyfer Merthyr a’i chyffiniau yn gallu cadw’r hyn yn fyw, yn enwedig os oes cyfle gan bobl ifainc i ddarlunio llais yr orsaf honno.

Cyfeirnodau:

Rodríguez-Soler, J., Verd, J. (2023) Informal social capital building in local employment services: Its role in the labour market integration of disadvantaged young people, Social Policy & Administration, 57(2) tud.1-21, https://doi.org/10.1111/spol.12900

Written by Russell Todd

Russell is a Welsh-speaking community development practitioner of 20 years’ experience, researcher, digital inclusion trainer, project manager and co-operator with over 8 years experience of workforce development and support for those employed on the recently-ended Communities First (CF) tackling poverty programme.

0 Comments

Submit a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *