Home » Blog » Cyflwyno Creu Cyffro

Cyflwyno Creu Cyffro

by | Jun 1, 2022 | Cymraeg

Ynghynt eleni cyhoeddodd Llywodraeth DU y byddai £220 miliwn o’r Gronfa Adfywio Gymunedol yn cael eu gwobrwyo i dros 400 brosiect ledled y DU er mwyn i baratoi am gyflwyniad y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r Gronfa Adfywio Gymunedol yn cyfrannu at yr agenda ‘lefelu i fyny’ ac un o’r brosiectau i lwyddo yw’r Rhaglen Hyfforddiant Diwydiannau Creadigol ym mwrdeistref Merthyr Tudful – o’r enw Creu Cyffro – a’i chyflawnir gan Lles Merthyr a’i lleoli yn y Redhouse hanesyddol.

Canolfan celfyddydau a diwydiannau creadigol yw Redhouse sydd wedi’i lleoli yn Hen Neuadd y Dref rhestredig Gradd II* sy’n edrych dros Sgwâr Dic Penderyn.

Mae Creu Cyffro yn dod at eu gilydd deg o bartnerau yn cynnwys Cerddoriaeth Gymunedol Cymru, Canolfan y Mileniwm Cymru, y Brifysgol Agored a Screen Alliance Cymru dros gyfnod o chew fis i ddarparu rhaglen o weithgareddau hyfforddiant a’u cynhalir gan leoliadau ledled y fwrdeistref megis Theatr Soar, y Coleg Merthyr Tudful, Y Bothy ym Mharc Cyfarthfa, y Clinig Creadigol yng Ngurnos, a’r Redhouse ei hunan hefyd.

Mae partnerau cyflawni eraill yn cynnwys Beacon Bees, gorsaf radio gymuendol GTFM, awdur a dramodydd lleol Anthony ‘Bunko’ Griffiths, cwmni theatre Puppet Soup, a Champws Cyntaf.

Be’ wnawn ni?

Mae Grow Social Capital wedi’i penodi i’r tîm gwerthuso gyda Straeon Research Ltd. Bydd ein Russell Todd yn cefnogi Ellie Farmahan ac Eva Elliott o Straeon i arddangos yr effaith sydd gan Creu Cyffro ar unigolion sy’n chwilio am ddod yn eu blaen yn y diwydiannau creadigol o du ôl y llenni, neu’n syml sydd eisiau rhyddau eu creadigwrydd cudd, ac yn y gyd-destun ehangach o adfywio ac economi ym Merthyr a’i chyffiniau.

Gan fod Creu Cyffro’n rhaglen greadigol, penderfynom ni i ddarlunio’r gwerthusiad yn yr un ysbryd ac felly mae’n tynnu ar fethodolegau creadigol a fydd yn plannu’r gwerthuswyr yn y gweithgareddau eu hunain. Sianel podlediad yw un o’r allbynau sy’n cael ei gynhyrchu gan Russell a sydd wedi newydd ryddhau ei benodau cyntaf. Hyd yn hyn mae cynnwys Saesneg dim ond ar gael ar y sianel ond bydd cynnwys Cymraeg cyn bo hir.


 Cyfalaf cymdeithasol a’r celfyddydau

Yn gynhenid i gyfalaf cymdeithasol yw’r celfyddydau a gweithgareddau creadigol. Meddyliwch am ddigwyddiad cerddoriaeth fyw eich bod chi wedi’i mynychu yn y gorffennol. Gweithgaredd cymydol yw e sy’n dod â phobl at eu gilydd i rannu profiad cyfrannol. Yn fwy na ddebyg roedd llawer o bobl yn y gynulleidfa sydd gan yr un diddordeb â chi yn y band yna neu, o’r leiaf, yn yr un math o gerddoriaeth yna, sydd gan wisg tebyg â chi a gan oedran tebyg hefyd.

Yn y ffordd yma ers talwm modd effeithiol o ail-gryfhau cyfalaf cymdeithasol bondio a fu cerddoriaeth fyw lle mae pobl o sîn penodol – pyncs, rafiniaid, pennau metwl, cariadon opera – yn gallu ymddathlu nid yn unig yn eu brwd cyfrannol o ‘genre’, ond hefyd i fynegi ffasiynau’r sîn yna, ei steiliau gwallt a’i arferion a nodweddion eraill.

Lle mae mathau gwahanol o gerddoriaeth yn dod at eu gilydd – neu lle mae ffurfiau o fynegiad diwylliannol megis cerddoriaeth, llenyddiaeth, comedi, dawns, a chrefftau yn cylchdroi eu hunain – yng ngwyliau, megis yr ŵyl Merthyr Rising, gallent nhw helpu adeiladu ein cyfalaf cymdeithasol pontio h.y., y bondiau rhwng bobl nad yw’n fel ein hunain. Y bobl hynny sydd gan ffasiynau a blasau gwahanol i’r hyn sydd gyda ni ein hunain.

Dyfeisiodd y cymdeithasegydd Eric Klinenberg y term ‘isadeiledd cymdeithasol’ am y mannau corfforol a mudiadau hynny sy’n siapo ein cydadweithiau cymdeithasol. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun mae diffiniad Klinenberg o isadeiledd cymdeithasol yn “helaeth”, i gynnwys is-ffyrdd, rhandiroedd, a meinciau parc. Ond deoraduron gwych o gyfalaf cymdeitahsol yw mannau sy’n gartref i greadigrwydd, neu sy’n gallu cael eu defnyddio’n ddychmygol er greadigrwydd.

Dyma pam mae’r Clinig Creadigol yn gyfleustr mor bwysig i gymuned ddifrentiedig megis Gurnos. Fyddem ni ddim yn awgrymu am un eiliad bod cyfleusterau fel y clwb lleol, y rhodfa siopa, neu fannau gwyrddion Gurnos yn leoliadau er fynegiad diwylliannol, neu sy’n methu eu defnyddio er greadigrwydd. Ond gall tlodi, anfantais a stigma allanol rwystro ymgysylltiad pobl â lleoliadau lle mae ffurfiau eraill o fynegiad diwylliannol a chreadigol yn gallu cael eu profi.


Mae’n ddigon buan o hyd i’r gwerthusiad ond bu’n hwyl hyd yn hyn. Hefyd bydd yn hynod diddorol i wylio rhai o’r synfyfyrion hyn ar bwys.

Am ragor o wybodaeth am y podlediad Creu Cyffro cysylltwch â ni ar hello@growsocialcapital.org.uk neu am ragor o wybodaeth ar sut y gallwch chi ddefnyddio methodolegau creadigol yn eich gwaith neu yn eich mudiad cysylltwch ag Ellie Farmhan o Straeon Research ar ellie@straeon.co.uk.

Written by Russell Todd

Russell is a Welsh-speaking community development practitioner of 20 years’ experience, researcher, digital inclusion trainer, project manager and co-operator with over 8 years experience of workforce development and support for those employed on the recently-ended Communities First (CF) tackling poverty programme.

0 Comments

Submit a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *