Cyfryngau Cymunedol Ym Merthyr

community media capacity building in merthyr tydfil

Posted on 18 November, 2022

Written by Russell Todd

Reading time: 2 minutes

Wythnos ddiwethaf roeddem ni ym Merthyr Tudful, gyda Rob Watson o Decentered Media, a chawsom ni ddeuddydd hyfryd yno – er gwaethaf cawsom ni ein hebrwng o’r farchnad dan dô ar un achylsur!

Fel rhan o’r rhaglen hyfforddiant diwydiannau creadigol, Creu Cyffro, ariannir gan Lywodraeth y DU trwy ei Gronfa Adfywio Cymunedol, roeddem ni’n trafod cyfryngau cymunedol ym Merthyr a’i chyffiniau a’r rôl y gall podlediadau chwarae mewn lleihau’r diffyg cyfryngau bod y cyfranogwyr yn teimlo sydd gan y dref a’r cylch.

Bu Rob yn ysgrifennu o flaenllaw ar ei flog Decentered Media am faint o ymddiriedaeth ynddynt sydd gan gyfryngau cymunedol ac, fel y gwyddwn ni gan Robert Putnam, mae lefelau dyfnach o gyfalaf cymdeithasol gan yr ardaloedd hynny â lefelau uchel o ymddiriedaeth. I’r ddiben hon, yng nghanol y broses yw Rob o sefydlu cwmni budd cymunedol (mae Grow Social Capital yr un) ar gyfer gorsaf radio cymunedol i wasanaethu Caerlŷr, o’r enw Radio Lear. Rheolai Y Brenin Lear, neu Leir, o Gaerlŷr ac er ni wyddwn i ddim hyn, gan fod enw Cymraeg y ddinas, dylai’r ceiniog fod wedi syrthio o flaenllaw!! Yn y gyd-destun hon mae Lear yn sefyll dros Leicester Emergent Arts Radio. Gallwch chi ddarllen rhagor amdani yma.

Nôl i Ferthyr, a buom ni’n helpu’r cyfranogwyr i gynllunio pa fath o recordio bod eisiau arnynt nhw ei gyflawni, helpu nhw i ymgynefino â’r technoleg ac ymarfer cyn mynd am farchnad dan dô Merthyr i glebran â phobl lleol am eu barnau dros gelfyddydau a diwylliant yn y dref.

Fe gododd y gamddealltwriaeth â rheolaeth y farchnad ar ôl achlusyr yr wythnos gynt pan deimlai pobl bod darlledwr cenedlaethol wedi portreadu’r farchnad yn anghydymdeimladol. Mae’n dangos pa mor hawdd gall ymddiriedaeth – dyna’r gair yna eto – gael ei cholli pan mae llefydd yn cael eu bwrw yn y cyfryngau.

Rydym ni’n gobeithio i ddychwelyd ym Merthyr i ail-redeg y sesiynau ym mis Ionawr felly ebostiwch ni os oes diddordeb gynnoch chi ynddynt nhw ar [email protected].

Os oes diddordeb gynnoch chi mewn radio a chyfryngau cymunedol a hoffech chi ymgysylltu â phobl eraill sydd gan yr un diddordeb, gallwch chi danysgrifio i dudalen Patreon Rob.


Blog categories:

About The Author

Russell Todd

Russell Todd

Russell is a Welsh-speaking community development practitioner of 20 years’ experience, researcher, digital inclusion trainer, project manager and co-operator with over 8 years experience of workforce development and support for those employed on the recently-ended Communities First (CF) tackling poverty programme.

Don’t miss what we’re working on. Subscribe to get fresh insights, updates and ideas straight to your inbox.

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Scroll to Top