Home » Blog » Dweud Eich Dweud Ar Beth Yw Gwytnwch

Dweud Eich Dweud Ar Beth Yw Gwytnwch

by | Jul 14, 2021 | Cymraeg

AROLWG

Fel rhan o ein hymholiad, ar ran Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ar wytnwch rydym ni wrth ein boddau i lansio arolwg sy’n canfasio canfyddiadau a dehongliadau o’r cysyniad yn y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mewn gwirionedd, mae tri arolwg oherwydd ein bod ni’n meddwl ei fod yn bosib i rywun i gael safbwyntiau gwahanol ar wytnwch gan fod yr hetiau gwahanol bod cymaint o unigolion yn gwisgo yn y sector.

Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gweithio mewn sawl rôl ran-amser; efallai y byddwch chi’n gweithio’n llawn-amser yn y sector ac yn gwneud gwaith gwirfoddol yn eich amser eich hun; neu gallwch weithio yn y sector yn ogystal â gweithredu fel ymddiriedolwr; neu efallai eich bod wedi ymddeol ond yn ymddiriedolwr sawl mudiad elusennol.

Rydym ni wrth ein boddau i leoli’r arolygon ar Doopoll, cwmni technoleg Cymreig, sy’n adlewyrchu ein ymrwymiad ynglŷn â’r gwaith hwn i ail-fuddsddi’r cyllid yn yr economi sylfaenol Cymreig, yn cynnwys recriwtio hwyluswyr ar gyfer y grwpiau ffocws o’r sector gwiffoddol ei hunan.

Cliciwch isod ar yr arolwg a fyddai’n well i chi yn yr iaith a fyddai’n well i chi:

RôlFersiwn CymraegFersiwn Saesneg
Gweithiwr yn y sector gwirfoddolhttp://doo.vote/a9189eehttp://doo.vote/70b834c
Gwirfoddolwrhttp://doo.vote/277d19dhttp://doo.vote/b6f913b
Ymddiriedolwrhttp://doo.vote/df3b58fhttp://doo.vote/7d0589b

Mae’r arolygon yn cyflenwi ein rhaglen cyfredol o grwpiau ffocws. Mae croeso i bobl i gwblhau arolwg/arolygon yn ogystal ag ymuno â grŵp ffocws. Gallwch chi rannu pob un o’r arolygon hyn ar un dolen gryno trwy’r ddolen hon.

Mae’r arolygon ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg a mewn ffurfiau eraill. Ebostiwch ni ar hello@growsocialcapital.org.uk os hoffech chi gwblhau’r aolwg mewn unrhyw ffurf arall.

Cliciwch yma am fersiwn Saesneg y blog yma.

Written by Russell Todd

Russell is a Welsh-speaking community development practitioner of 20 years’ experience, researcher, digital inclusion trainer, project manager and co-operator with over 8 years experience of workforce development and support for those employed on the recently-ended Communities First (CF) tackling poverty programme.

0 Comments

Submit a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *