Fel rhan o’n gwaith i werthuso’r rhaglen Creu Cyffro ym Merthyr Tudful rydym ni’n cynnal cwrs byr yn y dref i feithrin medr cymunedol yng nghyfryngau cymunedol ac yn arbennig â phodlediadau.
Rydym ni’n cynhyrchu’r podlediad Creu Cyffro – gellir ei ffeindio ar Soundcloud – ac un o amcanion y sesiwynau fydd hunanu’r pobl i fod wrth lyw y podlediad yna yn y dyfodol fel etifeddiaeth y rhaglen ac efallai bwrw golwg ar y sector diwylliannol a chreadigol ym Merthyr.
Rhad ac am ddim yw’r sesiynau ac maen nhw ar agor i gyfranogwyr ar Greu Cyffro ac i fudiadau diwylliannol ym Merthyr Tudful. Does dim angen brofiad blaenorol a bydd offer i gyd yn cael eu darparu.
Mae’r sesiynau yn digwydd 24 a 25 Hydref yng Nghanolfan Soar, hyb Cymraeg Merthyr. I archebu eich lle AM DDIM ebostiwch hello@growsocialcapital.org.uk.
Rydym ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio ag arbenigwr ar gyfryngau cymunedol, Rob Watson o Decentered Media, a leolir yng Nghaerlŷr sy’n rhedeg ei bodlediad ei hunan a chyngori newyddiaduron cymunedol a thimau newyddion cymunedol ledled y DU hefyd.
Pam mae cyfryngau cymunedol yn gynhwysyn pwysig mewn tyfu cyfalaf cymdeithasol yn ôl i ni yn Grow Social Capital? Bu’r cymal ‘fake news’ yn cyrraedd ein geirfa boblogaidd a bu’n helpu erydu ymddiriedaeth yn ffynonellau cyfryngau y brif ffrwd. Mewn cyferbyniad, mae cyfryngau cymunedol yn deilwng ystyfnig o ymddiriedaeth. Ond nid ydynt nhw’n wastad yn weladwy.
Fel meddai Rob:
Mae fy mhrofiad i yn dweud wrthyf i bod holl fyd arall o wybodaeth ac asiantiaid o newyddion, ond oherywdd ei fod e’n anffurfiol ac yn fud, yna ni chaiff ei gydnabod neu ei ddilysu.
Os gallwn ni helpu hyrwyddo model newyddion cymunedol, yna darganfodwn ni bod hen gymaint o ffynonellau o wybodaeth megis elusennau, grwpiau ieuenctid, busnesau bychain, a’r rheini i gyd sy’n gweithio ar brosiectau cymunedol sy’n cael eu hanwybyddu gan fodel gwasg a PR y brif ffrwd .
Felly mae’n bosibl nid yn unig podlediadau newydd neu hagorfeydd newyddion cymunedol y gallwn ni helpu eu hysbrydoli ym Merthyr, ond helpu ail-gryfhau ymddiriedaeth yng nghyfryngau lleol.
0 Comments